Mae’r canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnig awgrymiadau ar sut i gysgu’n well. Mae’n edrych ar sut i wella ansawdd eich cwsg, beth sy’n achosi anhwylderau cysgu ac atebion posibl. Mae’n cynnwys awgrymiadau gan feddyg cwsg, a thempled o ddyddiadur cysgu i’ch helpu chi i gadw golwg ar eich cwsg.
Mae cwsg yn effeithio ar y ffordd rydym yn defnyddio iaith, yn talu sylw, ac yn deall yr hyn rydym yn ei ddarllen a’i glywed. Os nad ydym yn cael digon o gwsg, gall effeithio ar ein perfformiad, ein hwyliau, a’n perthynas ag eraill. Mae tystiolaeth hefyd bod cwsg yn amddiffyn y system imiwnedd. Mae faint o gwsg sydd ei angen ar bob un ohonom yn wahanol. Fodd bynnag, argymhellir y dylai oedolyn iach gysgu, ar gyfartaledd, rhwng saith a naw awr bob nos.
Dydy cwsg da ddim yn golygu llawer o gwsg yn unig: mae’n golygu’r math cywir o gwsg. Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y pedwar prif beth sy’n effeithio ar ansawdd ein cwsg – iechyd, amgylchedd, agwedd a ffordd o fyw.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.

Y Pethau Bychain
Short monologues, set against music, that reflect writer Manon Steffan Ros's conversations with health and care workers.

Ein hawgrymiadau gorau ar gyfer iechyd meddwl
Mae awgrymiadau gorau'r Sefydliad Iechyd Meddwl ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl yn cael eu hategu gan dystiolaeth ymchwil.