Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae Efa Blosse Mason (dolen Saesneg yn unig) a Mali Hâf wedi cydweithio i greu fideo ymwybyddiaeth ofalgar yn yr iaith Gymraeg.
Bydd llais Mali yn ogystal â cherddoriaeth dawel yn eich arwain chi drwy fyfyrdod 10 munud i roi lle i chi feddwl ac anadlu.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar fod yn arf defnyddiol ar gyfer iechyd meddwl. Gall eich helpu chi i ddod o hyd i chi’ch hun yn y presennol.
Mae Efa wedi creu animeiddiadau heddychlon i gyd-fynd â sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar Mali.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bwydo eich creadigrwydd
Mae'r fideos hyn gan yr artist a'r awdur Sadia Pineda Hameed yn defnyddio ryseitiau ac atgofion am fwyd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol.
Celf yn y Gegin
Rhowch gynnig ar dri phrosiect 'mynediad lefel cegin' rhad – clytwaith, argraffu ac ysgythru.
Niwro-benillion
Gwyliwch gyfres o ffilmiau sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng ysgrifennu a chemeg yr ymennydd.