Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae’r broses cyanoteip yn wych i danio’ch creadigrwydd ac i ymgysylltu â’r hyn sydd o’ch cwmpas.
Yn y gweithdy hwn, byddwch yn defnyddio heulwen i wneud eich cardiau post.
Mae cyanoteip yn broses ffotograffig gymharol syml sy’n gofyn am gemegau sydd ar gael yn hawdd ac yn rhad.
Ar ôl i chi gymysgu eich hydoddiant cyanoteip, gallwch fynd am dro i ddechrau casglu deunyddiau i’w defnyddio gyda’ch cyanoteip neu i ysbrydoli’r hyn y byddwch yn ei ysgrifennu ar eich cardiau post.
Mae’r broses cyanoteip yn rhoi esgus i ni stopio, i fod yn llonydd, ac i eistedd a meddwl wrth i’r cyanoteip newid llif yn araf bach.
Lawrlwythwch y nodiadau proses papur syanoteip (PDF).
Ynglŷn â Scarlett Rebecca
Artist a gwneuthurwr printiau o Ogledd Cymru ydw i.
Gan fy mod yn gweithio gartref, o ran fy iechyd meddwl, mae’n bwysig iawn mynd allan cymaint â phosibl; i ddianc o’r gweithle, i newid fy mhersbectif ac i gael ychydig o awyr iach a fitamin D.
Dydw i ddim yn creu gwaith celf o dirluniau yn aml. Rwy’n ofnadwy yn gwneud tirluniau, ond mae creu cyanoteip yn ffordd wych o ddefnyddio rhannau o’r tirlun ei hun i ysbrydoli print.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.
Symud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.
Gweithredoedd Dychmygol ar gyfer Iechyd A Lles
Defnyddiwch y myfyrdodau hyn i ganolbwyntio a chysylltu â'ch teimladau a'ch dychymyg.