Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Canu er Lles

Canu er Lles

Darganfyddwch sut y gall canu gyda'n gilydd hybu lles, codi hwyliau a chryfhau ymgysylltu.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolCysylltu â phobl
  • Lle / Lleoliad: Awyr agored, Gartref
  • Maint grŵp: Gydag eraill
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Fideo
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Llun o Christianah

Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.

Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y gall canu i’ch plentyn, neu ganu gyda’ch gilydd, gefnogi lles corfforol a meddyliol, gan gryfhau’r cwlwm rhyngoch ar yr un pryd, p’un a ydych chi’n rhannu hwiangerdd, hoff gân, neu’n syml yn hymian gyda’ch gilydd.

Gwyliwch y fideo a chymerwch eiliad i fyfyrio ar sut rydych chi eisoes yn defnyddio canu yn eich bywyd bob dydd, i ddifyrru, tawelu neu roi hwb i chi’ch hun ac eraill.

Mae Christianah Ugbaja yn Singing Mama hyfforddedig ac wedi bod yn aelod o Gôr WOW am amser hir, lle mae hi wedi cyfrannu creadigrwydd, ysbrydoliaeth ddiwylliannol ac ysgrifennu caneuon gwreiddiol am y saith mlynedd diwethaf. Mae Christianah yn arwain sesiynau cerddoriaeth wythnosol ar gyfer lles gyda menywod sy’n chwilio am noddfa, yn ogystal â sesiynau canu diwylliannol misol yng Nghaerdydd.

Ar draws diwylliannau ledled y byd, mae pobl yn canu’n reddfol i’w babanod a’u plant. Gall canu greu cysylltiad, agosatrwydd a rheoleiddio emosiynol. Mae Christianah yn angerddol am bŵer cerddoriaeth a sut y gall canu gyda’n gilydd greu cysylltiadau ystyrlon ar draws diwylliannau ac ieithoedd, gan wella lles pawb sy’n gysylltiedig.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd tebyg, ewch i Gerdd Gymunedol Cymru, gan eu bod yn cynnig amrywiaeth o grwpiau canu a gweithgareddau cerddoriaeth gymunedol sy’n creu cysylltiad ac yn cefnogi lles.

WOW Mamas – Canu er Llesiant

Os hoffech chi ddarllen rhagor am sut y gall canu gefnogi lles meddyliol, ewch i Hwyl Wrth Ganu – Hapus a Tyfu Eich Llais – Hapus


Gweler isod am fwy o wybodaeth am gymunedau canu cynhwysol

Singing Mamas – Sefydliad cenedlaethol di-elw sy’n cefnogi lles menywod:
www.singingmamas.org/  

Rhwydwaith Llais Naturiol – Hyrwyddo cymunedau canu cynhwysol:
www.naturalvoice.net/  

Oasis Cardiff – Cefnogi pobl sy’n chwilio am loches:
www.oasiscardiff.org/ 

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls