Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Cofiwch gael hwyl a mwynhau’r broses yn lle canolbwyntio ar y canlyniad.
Helo, Emma Jones ydw i.
Rwy’n artist o Fro Morgannwg ac rwy’n angerddol am gelf a’r effaith mae’n gallu ei chael ar ein lles. Gan fod celf yn lleihau lefelau cortisol, ni ddylem ystyried treulio amser yn gwneud tasgau creadigol fel rhywbeth moethus, ond yn rhywbeth y dylem ei gynnwys yn ein bywydau bob dydd.
Dyma pam rydw i wedi dewis y 3 celf/crefft i chi roi cynnig arnyn nhw:
a) Dydyn nhw ddim yn cymryd gormod o amser
b) maen nhw’n rhad
c) maen nhw’n sgiliau sy’n gallu cael eu trosglwyddo’n hawdd ac mae hynny’n hyfryd.
Maen nhw i gyd hefyd yn cynnwys yr eiliad diniwed hwnnw o ryfeddod pan maen nhw’n dod yn fwy / yn datgelu’r elfen euraidd fewnol / yn mynd o un siâp i’r llall. Neu efallai mai dim ond fi sy’n credu hynny!
Y peth pwysicaf yw cael hwyl a mwynhau’r broses yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad.
Gobeithio y byddwch chi’n rhoi cynnig ar un ohonyn whw neu’r tri ac yn pasio eich sgiliau newydd ymlaen.
Mwynhewch.
Emma Jones
Llun 3D syml
Offer angenrheidiol:
- Cerdyn
- Siswrn
- Unrhyw ddeynydd celf
- Glud
Celf â thiwb past tomato
Offer angenrheidiol:
- Tiwb past tomato gwag
- Siswrn
- Hen feiro
- Llwy
Amgueddfa o’ch Bywyd
Offer angenrheidiol
- Papur (sgwâr)
- Siswrn
- Pensal, beiro
Adnoddau gan Emma Jones, Tracy Pallant ac Amy Peckham.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crosio i Ddechreuwyr
Dysgu'r hanfodion o grosio gyda'r artist crefft o Gaerdydd, Gemma Forde.

Canwch Unrhyw Le!
Dewch i ganu gyda'r tri fideo byr hyn gan Hannah Barnes, cantores, actores ac athrawes ganu o Gaerdydd.

Hunanbortread
Gwyliwch wrth i’r artist Nathan Wyburn greu hunanbortread mawr allan o becynnu presgripsiwn gwag.