Ydych chi’n llawn chwilfrydedd am dreftadaeth naturiol Cymru?
Gallwch gael mynediad i amrywiaeth o adnoddau gan Amgueddfa Cymru ar ffurf taflenni ffeithiau ar archaeoleg a Chanllawiau Adnabod i’ch helpu i adnabod ffosiliau, anifeiliaid a cherrig yng Nghymru. Mae cwisiau, gemau a thaflenni lliwio hefyd ar gael ac mae pob un ohonynt yn ymwneud ag amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru.
Gallwch hyd yn oed anfon lluniau o’r hyn rydych wedi’i ddarganfod at wyddonwyr yr amgueddfa i’ch helpu i gael gwybod beth ydyw!

Mae teimlo’n chwilfrydig a dysgu am ein hamgylchedd naturiol a hanesyddol yn dda i’n lles meddyliol. Mae’n cadw ein hymennydd yn brysur ac yn ein helpu i deimlo cysylltiad â’n gorffennol a’r amgylchedd naturiol.
Dengys ymchwil fod dysgu pethau newydd hefyd yn gallu hyrwyddo ein hunan-barch a’n hunanhyder a rhoi teimlad o foddhad a phwrpas i ni. Gall dysgu gydag eraill greu ffordd o sefydlu neu atgyfnerthu cysylltiadau cymdeithasol hefyd – ac mae hyn oll yn wych i’n lles meddyliol.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tonnau Ogofau: Celf Sain Amgylcheddol
Archwilio sain weledol traethau Llanelli gyda'r cerddor Cheryl Beer.
Cardiau Post Syanoteip
Gwnewch gardiau post gan ddefnyddio syanoteip, proses ffotograffig hawdd sy'n gofyn am gemegau rhad.
Straeon o’r Galon – Barddoniaeth, Caneuon ac Adrodd Straeon
Gwrandewch ar dair stori gan Eric Ngalle Charles,yr awdur, y bardd a'r dramodydd a gafodd ei eni yn Cameroon, ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.