Ffyrdd at les
Dewch o hyd i'ch adnodd
Yn Dangos 97 Canlyniad
Darlun wedi'i binio i fwrdd corc. Ar y llun mae'r geiriau hyn: 'Treulia amser gyda'r sawl sy'n dy wneud yn hapus'. Mae dau eicon llwyd o bobl yn cofleidio yn y canol.

Treulia Amser Gyda’r Sawl Sy’n Dy Wneud Yn Hapus

Dysgwch sut i dynnu llun yn cynnwys yr ymadrodd hwn, neu lawrlwythwch dair dalen liwio gyda gwahanol ymadroddion ysbrydoledig.

Mae person â gwallt melyn cyrliog hyd ysgwydd yn eistedd wrth fwrdd mewn stiwdio. Mae’r person yn dal cylch brodwaith ac yn ychwanegu pwyth ato. Mae gwahanol fathau o decstilau wedi'u gwasgaru o amgylch y bwrdd.

Edau i’r enaid

Cwblhewch brosiect tecstilau cyflym a hawdd gyda'r fideos hyn gan yr artist Haf Weighton.

Mae person â gwallt byr a sbectol yn plycio tannau gitâr acwstig ar lwyfan. Mae wedi'i oleuo gan olau magenta llachar ac yn sefyll wrth ymyl meicroffon.

Gwaith Byrfyfyr Cerddorol

Yn y gyfres hon o fideos ar alawon, groove, rhythm a delweddau, gallwch gymryd rhan gyda'ch llais, neu ar ba bynnag offeryn y gallech ei chwarae.

Mae pum powlen seramig ar hambwrdd pren ysgafn. Mae'r powlenni wedi'u llenwi â gwymon, cawl, dail, tatws a thefyll o fetys. Mae dwy lwy bren yn gorwedd wrth ymyl y bowlenni.

Prosiectau’r Arfordir: Fforio, Coginio a Myfyrio

Fideos i'ch ysbrydoli i ymweld ag arfordir Sir Benfro i fforio, coginio a myfyrio.

Llun agos o banel comic gyda pherson cartŵn yn eistedd o flaen gliniadur yn edrych yn ofidus. Mae 'na wyntyll desg yn chwythu arno, a swigen feddwl gyda'r geiriau 'Mae'n rhy boeth i fyw' yn hofran dros ei ben.

Dyddiaduron Comic

Gwnewch eich comics dyddiadur eich hun – comics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr.

Mae person â gwallt melyn yn dal pili-pala wedi'i wneud allan o wifren gopr. Mae wedi'i addurno â gleiniau glas, glas tywyll a gwyrdd.

Gwaith Weiren

Dysgwch sut i greu pili-pala a gwas y neidr allan o wifren gyda’r gyfres hon o fideos gan y gwneuthurwr Beth Sill.

Person yn gwenu gyda gwallt cyrliog llwyd a brown yn croesi ei freichiau ac yn edrych i mewn i'r camera. Mae’n nhw'n eistedd wrth ddesg wedi'i hamgylchynu gan becynnau gwnïo a deunyddiau.

Sut i Drwsio Hosan

Ffilm sy’n canolbwyntio ar y broses araf a thyner o drwsio.

Darlun haniaethol o wahanol siapiau geometrig mewn arlliwiau o binc, melyn a glas. Ar y gwaelod mae'r geiriau, 'Abstract Art – Prith Biant'.

Cysylltu nôl i’r Canol

Cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig i leddfu straen ac ymdawelu.

Dail, sleisys oren, petalau blodau, conau pinwydd a blodau wedi'u trefnu mewn patrwm crwn ar y llawr.

Celf yn yr Awyr Agored

Crëwch dri phrosiect celf gan ddefnyddio deunyddiau y deuir o hyd iddynt ym myd natur gyda'r fideos hyn gan yr artist gweledol Helen Malia.

Bricsen fach o bren gyda llinynnau o edafedd o wahanol liwiau wedi'u gwehyddu (llwyd, gwyn, melyn, oren ac oren).

Gwehyddu ar Froc Môr

Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.

Llun pen ac ysgwydd o berson yn gwenu gyda gwallt llwyd hyd ysgwydd. Maen nhw'n gwisgo mwclis pren mawr lliwgar a thop lliw cwrel cotwm.

Hwyl Wrth Ganu

Tair ffilm fer sy’n archwilio sut y gall canu mewn ffordd syml a chwareus fod yn hwyl a chefnogi eich llesiant.

Llun pen ac ysgwydd o berson yn eistedd yn sedd gyrrwr car. Mae ei geg yn agored (fel petai yng nghanol y gân) a'u llaw chwith yn codi. Gwisga siwmper lwyd, clustdlysau cylch a band pen du.

Canwch Unrhyw Le!

Dewch i ganu gyda'r tri fideo byr hyn gan Hannah Barnes, cantores, actores ac athrawes ganu o Gaerdydd.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls